Holl Newyddion A–Y
Adroddiad ar drafodion y Symposiwm Croniclau Cymreig, 9 Awst 2014
Ddydd Sadwrn, 9 Awst, cynhaliodd Prifysgol Bangor y cyntaf o'r hyn fydd, gobeithio, yn gyfres o symposia bychain yn ymdrin ag astudio'r amrywiol groniclau a ysgrifennwyd yng Nghymru yn ystod yr Oesoedd Canol. Fel yn achos cymaint o ymdrechion i hybu achos yr ASNC, esgorodd y syniad o gynnal y symposiwm yn sedd gefn car a oedd newydd ddianc o'r gynhadledd ryngwladol ar astudiaethau canoloesol yn Kalamazoo, a hynny mewn sgwrs rhyngof i ac Owain Wyn Jones (gynt o'r ASNC ac erbyn hyn yn aelod o staff yr adran hanes ym Mangor).
Dyddiad cyhoeddi: 15 Awst 2014
Dewch i ddathlu’r Nadolig gyda ni
Dyddiad cyhoeddi: 26 Tachwedd 2024
Grŵp Ymchwil Croniclau Cymreig yn dal sylw'r wasg genedlaethol
Ar 25ain–26ain Mai 2016 cynhaliwyd trydedd gynhadledd flynyddol y Grŵp Ymchwil Croniclau Cymreig ym Mhrifysgol Caergrawnt. Yn dilyn datganiad i'r wasg gan Goleg Ioan Sant, cyd-noddwyr y digwyddiad, gwnaeth y BBC gysylltu â Rebecca Thomas, myfyrwraig ôl-radd yn y coleg ac aelod o'r Grŵp Ymchwil.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Mehefin 2016
Grŵp Ymchwil y Croniclau Cymreig - lansio gwefan
Mae Grŵp Ymchwil y Croniclau Cymreig, sef consortiwm o ysgolheigion ac ymchwilwyr sy'n astudio croniclau Cymru'r oesoedd canol, yn falch o gyhoeddi lansio eu gwefan , a gynhelir gan Brifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Hydref 2015