Adroddiad ar drafodion y Symposiwm Croniclau Cymreig, 9 Awst 2014

Adroddiad ar drafodion y Symposiwm Croniclau Cymreig, 9 Awst 2014

Gan Ben Guy, myfyriwr graddedig o'r Adran Eingl Sacsoneg, Llychlyneg a Chelteg  (ASNC), Caergrawnt a threfnydd y symposiwm:
Ddydd Sadwrn, 9 Awst, cynhaliodd Prifysgol Bangor y cyntaf o'r hyn fydd, gobeithio, yn gyfres o symposia bychain yn ymdrin ag astudio'r amrywiol groniclau a ysgrifennwyd yng Nghymru yn ystod yr Oesoedd Canol.  Fel yn achos cymaint o ymdrechion i hybu achos yr ASNC, esgorodd y syniad o gynnal y symposiwm yn sedd gefn car a oedd newydd ddianc o'r gynhadledd ryngwladol ar astudiaethau canoloesol yn Kalamazoo, a hynny mewn sgwrs rhyngof i ac Owain Wyn Jones (yn flaenorol o'r ASNC ac erbyn hyn yn aelod o staff yr adran hanes ym Mangor). 

Cawsom ein taro gan ansawdd a swm gwaith diweddar a wnaed ar groniclau Cymreig yr oesoedd canol a phenderfynwyd y gallai fod yn ddefnyddiol i awduron y gweithiau hyn gyfarfod i drafod sefyllfa'r maes.  Fe wnaethom ymuno â Georgia Henley (un arall o gynfyfyrwyr ASNC, sydd ar hyn o bryd yn gwneud PhD yn Adran Geltaidd Harvard) ac aethom ati i lunio rhaglen a fyddai'n rhoi amlygrwydd i ddulliau newydd o ymdrin â holl ystod y croniclau sydd ar gael a gynhyrchwyd yng Nghymru'r oesoedd canol.

Y canlyniad oedd diwrnod rhagorol o bapurau a thrafod a ddygodd lawer o ffrwyth deallusol.  Ynghyd â'r tri threfnydd, roedd y siaradwyr yn cynnwys David Stephenson, Barry Lewis a Henry Gough-Cooper. Llwyddwyd i rannu'r sesiynau'n daclus iawn i dri grŵp:  Croniclau Lladin, cynnar a diweddar; croniclau yn yr iaith frodorol, yn rhai cyfarwydd ac anghyfarwydd; ac argraffiadau diweddar, y mae angen mawr amdanynt.  Roedd y cyflwyniadau'n ymdrin ag ystod eang o feysydd, yn cynnwys hanes testunol, hanesyddiaeth, golygu a threialon rhai a oedd mewn trafferthion gyda rhai tai cyhoeddi.  Agorwyd y gweithgareddau gyda thrafodaeth feistrolgar gan David Stephenson ynghylch yr adran anoddaf o destun-B Annales Cambriae, sef yr adran am 1204-1230.  Fe'i dilynwyd gan fy sgwrs (tipyn yn llai meistrolgar) i ar ffynonellau'r cronicl Tŷ Ddewi o'r ddegfed ganrif. 

Yna fe wnaeth Barry Lewis oleuo'r grŵp ynghylch ei ddarganfyddiad o gysylltiad testunol tebygol rhwng y cronicl Brenhinoedd y Saeson a Bonedd y Saint, testun achyddol yn ymwneud â saint Cymru. Trafododd Owain Wyn Jones y cronicl Cymraeg, Brut y Saeson, gan ymdrin â chefndir diwylliannol y cyfnod pryd y lluniwyd y testun yn niwedd y bedwaredd ganrif ar ddeg.  Yn olaf, fe'n cyfareddwyd gan Henry Gough-Cooper gyda manylion am ei argraffiadau sydd ar ddod o'r croniclau Breviate a Cottonian (testunau B- a C- yr Annales Cambriae) a chan Georgia Henley gyda manylion yr un mor gyffrous am yr argraffiad sydd ganddi hi ar y gweill o'r Chronica ante aduentum Christi.  Aeth y gweithgareddau yn eu blaenau'n hwylus o'r dechrau i'r terminus ante quem o 4:30pm, a hwyluswyd pethau'n arbennig gan haelioni Ysgol Hanes Prifysgol Bangor, a ddarparodd ginio a diodydd ar y diwrnod.

Efallai mai rhan fwyaf defnyddiol y diwrnod oedd yr awr o drafodaeth a gafwyd ar y diwedd.  Yn ogystal â thrafodaeth fanwl ynghylch manylion astudio croniclau, cafwyd sgwrs ynghylch dyfodol y grŵp symposiwm, lle penderfynwyd y dylai'r grŵp barhau a cheisio gwneud ei weithgareddau ar gael i gynulleidfa ehangach.  Rydym felly'n ymchwilio i'r posibilrwydd o ddechrau gwefan lle gellir darparu'r gwahanol adnoddau ysgolheigaidd a gynhyrchir gan y grŵp, o'r rhestrau terfynol o groniclau Lladin a brodorol a'r argraffiadau ohonynt sydd eisoes ar gael, i argraffiadau newydd o destunau'r croniclau eu hunain.

Awgrymwyd hefyd y dylid trefnu symposia pellach i'r un diben at y dyfodol - cynigiwyd Glasgow fel lleoliad posibl y flwyddyn nesaf fel y gall y digwyddiad gael ei gynnal ar y cyd â Chyngres Geltaidd Ryngwladol 2015.  Yn y digwyddiad hwnnw gobeithiwn glywed gwybodaeth bellach gan y rhai a siaradodd yn y symposiwm diwethaf, yn ogystal â syniadau newydd gan gyfranogwyr newydd.

Rhagor am hyn

Dyddiad cyhoeddi: 15 Awst 2014