Grŵp Ymchwil y Croniclau Cymreig
Consortiwm o ymchwilwyr sy'n astudio croniclau Cymru'r oesoedd canol gan hyrwyddo trafod ac ymchwil pellach i'r grŵp pwysig hwn o destunau yw Grŵp Ymchwil y Croniclau Cymreig.
Mae croniclau Cymreig yr oesoedd canol yn unigryw ac amlieithog, gan rychwantu pellterau daearyddol ac amseryddol mawr, ac weithiau maent yn dameidiog ynddynt eu hunain ac o ran adnoddau eilaidd. Maent yn rhychwantu'r holl oesoedd canol, o'r cyfnod canoloesol cynnar i'r bymthegfed ganrif ac maent wedi goroesi mewn Cymraeg a Lladin.
Mae'r corff pwysig hwn o ysgrifennu hanesyddol wedi cael sylw cynyddol yn ystod y degawdau diwethaf, ac eto mae'n faes sy'n dal i fod angen llawer iawn o astudio pellach arno, yn cynnwys argraffiadau newydd ac ailasesu cyd-destunau hanesyddol. Mae goblygiadau sylweddol ar gyfer astudio pellach ym meysydd hanes testunol, hanes Cymru a rhwydweithiau trosglwyddo llawysgrifau.
Mae'r wefan hon yn dod ag adnoddau a syniadau at ei gilydd i fan canolog, gan hwyluso ac annog ymchwil newydd yn y maes pwysig hwn ac ymwneud â'r adnoddau gwerthfawr hyn. Yma fe gewch wybodaeth am bob cronicl, yn cynnwys rhestr o argraffiadau a chyfieithiadau sydd ar gael (gyda chysylltiadau lle bo'n briodol), yn ogystal â llyfryddiaethau ysgolheictod eilaidd.