Argraffiadau
Un o amcanion pwysig Grŵp Ymchwil y Croniclau Cymreig yw hwyluso mynediad at destunau o groniclau Cymru'r Oesoedd Canol, sydd weithiau wedi eu cyhoeddi mewn cyhoeddiadau gwaelion yn y gorffennol. Mae'r tudalen hon yn rhoi lle i gyhoeddi golygiadau a gynhyrchwyd gan y grŵp.
Mae'n bleser gan Rŵp Ymchwil y Croniclau Cymreig gydnabod caredigrwydd Henry Gough-Cooper, sydd wedi caniatáu inni gyhoeddi ffeiliau pdf o'i olygiadau o groniclau Lladin Cymru.
Gellir llawrlwytho'r ffeiliau pdf yma:
- Y Cronicl Harleian (Testun-A yr Annales Cambriae
- Y Cronicl Breviate (Testun-B yr Annales Cambriae)
- Y Cronicl Cottonian (Testun-C yr Annales Cambriae)
- Cronica ante aduentum domini (Testun-D yr Annales Cambriae)
- Cronicon de Wallia (Testun-E yr Annales Cambriae)
- Blwyddnodion Nedd o Forgannwg
- Cofnodion Hanesyddol yn Ffrangeg Normanaidd a Chronicl Calendr ynghylch Gŵyr a Chymru
Ceir errata ar gyfer pob golygiad yma.
Byddai croeso i atborth am y golygiadau ar y wefan hon, gan gynnwys cywiriadau; fe ddylid ei ebostio at croniclau@gmail.com.