Manylion cyswllt

Ebost: henrywgc@aol.com

Henry Gough-Cooper

Cafodd Henry Gough-Cooper addysg glasurol ac yna astudiodd gerddoriaeth, gan raddio o’r Dartington College of Arts yn 1969. Ar ôl astudio yn yr Architectural Association gyda Keith Critchlow, bu’n ffermwr da byw yng Ne-orllewin Yr Alban am dros ddeugain mlynedd. Mae’n Gymrawd o’r Society of Antiquaries of Scotland ac mae wedi cyhoeddi ym meysydd archaeoleg, bucheddau’r saint a’r croniclau Cymreig a ysgrifennwyd mewn Lladin. Ef sefydlodd wefan y Scottish Place-Names Society ac mae’n helpu i’w chynnal.