Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Newyddion: Awst 2014

Adroddiad ar drafodion y Symposiwm Croniclau Cymreig, 9 Awst 2014

Ddydd Sadwrn, 9 Awst, cynhaliodd Prifysgol Bangor y cyntaf o'r hyn fydd, gobeithio, yn gyfres o symposia bychain yn ymdrin ag astudio'r amrywiol groniclau a ysgrifennwyd yng Nghymru yn ystod yr Oesoedd Canol. Fel yn achos cymaint o ymdrechion i hybu achos yr ASNC, esgorodd y syniad o gynnal y symposiwm yn sedd gefn car a oedd newydd ddianc o'r gynhadledd ryngwladol ar astudiaethau canoloesol yn Kalamazoo, a hynny mewn sgwrs rhyngof i ac Owain Wyn Jones (gynt o'r ASNC ac erbyn hyn yn aelod o staff yr adran hanes ym Mangor).

Dyddiad cyhoeddi: 15 Awst 2014

Site footer