Grŵp Ymchwil y Croniclau Cymreig - lansio gwefan

Grŵp Ymchwil y Croniclau Cymreig - lansio gwefan

Mae Grŵp Ymchwil y Croniclau Cymreig, sef consortiwm o ysgolheigion ac ymchwilwyr sy'n astudio croniclau Cymru'r oesoedd canol, yn falch o gyhoeddi lansio eu gwefan, a gynhelir gan Brifysgol Bangor. 

Arweinir y Grŵp Ymchwil gan Owain Wyn Jones (Prifysgol Bangor), Ben Guy (Prifysgol Caergrawnt) a Georgia Henley (Prifysgol Harvard), gyda'r bwriad o hyrwyddo trafodaeth ac ymchwil yn ymwneud â'r croniclau Cymreig canol oesol.  Bwriedir i'r wefan hon fod yn fforwm ar-lein i'r grŵp ymchwil, yn ogystal ag yn adnodd ar-lein hynod werthfawr.

Yn ogystal â disgrifiadau hwylus gyda chyfeiriadau llawn o bob un o'r croniclau canoloesol Cymreig, gyda'r bwriad o hyrwyddo ymchwil a dealltwriaeth ar bob lefel, mae'r wefan hefyd yn cynnwys argraffiadau beirniadol o bedwar o'r croniclau Lladin pwysicaf yng Nghymru'r oesoedd canol.  Nid yw argraffiadau hygyrch a dibynadwy o'r rhain - yn arbennig y croniclau a adwaenir yn gyffredinol fel testunau B a C yr 'Annales Cambriae' - erioed wedi bod ar gael o'r blaen, a hoffai'r grŵp ddiolch i Henry Gough-Cooper a baratôdd yr argraffiadau rhagorol hyn.

Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y Grŵp Ymchwil gan yr Ysgol Hanes, Hanes Cymru ac Archaeoleg ym Mangor yn 2014, a hefyd cynhaliodd y Grŵp gynhadledd fechan yng Nghyngres Geltaidd Glasgow, 2015.  Bwriedir cynnal cynhadledd undydd yng Nghaergrawnt yn 2016– bydd manylion pellach ar gael ar croniclau.bangor.ac.uk gyda hyn. 

Dyddiad cyhoeddi: 28 Hydref 2015