Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Grŵp Ymchwil Croniclau Cymreig yn dal sylw'r wasg genedlaethol

Ar 25ain–26ain Mai 2016 cynhaliwyd trydedd gynhadledd flynyddol y Grŵp Ymchwil Croniclau Cymreig ym Mhrifysgol Caergrawnt. Yn dilyn datganiad i'r wasg gan Goleg Ioan Sant, cyd-noddwyr y digwyddiad, gwnaeth y BBC gysylltu â Rebecca Thomas, myfyrwraig ôl-radd yn y coleg ac aelod o'r Grŵp Ymchwil.

Bywiog oedd diddordeb y BBC yng nghroniclau canoloesol Cymru, ac roedd rhaid i Rebecca ymdopi â chwestiynu brwdfrydig ynglŷn â'r croniclau, y gynhadledd a gweithgareddau'r Grŵp Ymchwil yng nghwrs dau gyfweliad byw ar BBC Radio Cymru a BBC Radio Wales. Crisialwyd agweddau o'r cyfweliadau i erthygl ar wefan newyddion y BBC, sydd i'w weld yma.

Dyddiad cyhoeddi: 20 Mehefin 2016

Site footer