Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Bibliographic information

Language: Latin

Covers years: 1190–1266

Manuscript: Exeter, Cathedral Library, 3514, pp. 507–19 (s. xiiiex).

Cronicon de Wallia

Mae'r Cronicon de Wallia i'w gael ar dudalennau 507-19 Llawysgrif 3514 yn Llyfrgell Eglwys Gadeiriol Caerwysg (Exeter). Llawysgrif o ddiwedd y drydedd ganrif ar ddeg ydyw sy'n cynnwys amrywiaeth o destunau hanesyddol, lled-hanesyddol ac achyddol o ddiddordeb Cymreig a chyffredinol.   Tarddiad y llawysgrif hon mae'n debyg yw Abaty Hendy-gwyn ar Daf, neu efallai Glyn-nedd.  Roedd yng Nghaerwysg erbyn y bedwaredd ganrif ar ddeg, pryd yr ychwanegwyd rhestr gynnwys ati.  O ran paleograffeg, mae bron yn amhosibl ei gwahaniaethu oddi wrth lawysgrifau Saesneg o'r cyfnod, a dyna pam na chafodd ei hadnabod fel llawysgrif Gymreig tan y 1940au, a hynny ar sail ei chynnwys a nodiadau ymyl y ddalen.   Mae'r Cronicon de Wallia yn ymwneud â'r blynyddoedd 1190-1266 (gyda 1217-27 a 1249-53 ar goll) a gwelir cymysgfa o ffynonellau ynddo: cyfunir cofnodion o flwyddnodion Cymreig Tŷ Ddewi ac Ystrad Fflur sy'n sôn am weithgareddau tywysogion a gŵyr eglwysig Cymreig - yn bennaf o Ddeheubarth a Gwynedd - â deunydd talfyredig o Gronicl Bury St Edmunds sy'n ymdrin â gweithgareddau arglwyddi'r Mers a brenhinoedd Lloegr yn yr un cyfnod.   Defnyddir y ffynhonnell olaf hon o 1254-1266.  Daw'r ffynhonnell o Ystrad Fflur i ben yn 1248, sy'n dangos na chafodd y cronicl ei orffen yno.  Mae'n debyg mai yn Hendy-gwyn ar Daf y rhoddwyd y cronicl at ei gilydd.  

Ysgrifennwyd y cronicl yn Llaw 2 o'r cyfanswm o naw llaw ysgrifenyddol a adnabuwyd gan Julia Crick, pob un yn ysgrifennu mewn sgript lyfrgellol Gothig.  Mae Jones a Flower wedi awgrymu i'r gwaith gael ei gopïo i'r llawysgrif Caerwysg tua 1280, efallai'n gynharach; dadleuodd Crick bod yr ysgrifennwr yn gweithio yn y flwyddyn 1266 neu wedi hynny, yn agos iawn at ddyddiad y goncwest Edwardaidd a bron yn gyfoes â'r blwyddnodion eu hunain.     Yng ngoleuni hyn, mae wedi awgrymu bod cynnwys y llawysgrif yn gynllun gan y rhai a'i lluniodd i osod hanes Cymru o fewn cyd-destun byd-eang, gan geisio efallai wrthweithio'r bygythiad o oruchafiaeth Seisnig (Crick, t.25). 

Mae'r cronicl hwn wedi cael cymaint o sylw ysgolheigaidd manwl i raddau helaeth oherwydd y tebygrwydd geiriol agos rhyngddo â Brut y Tywysogion, cronicl Cymraeg a gyfieithwyd erbyn dechrau'r bedwaredd ganrif ar ddeg o destun Lladin cynharach coll.   Er nad y Cronicon de Wallia yw ffynhonnell Ladin Brut y Tywysogion, credir eu bod yn rhannu'r un ffynhonnell Ladin gyffredin.  Yn arbennig, nodwyd bod y blynyddoedd 1190-1216 ‘the nearest we can come to the Latin original of the Brut y Tywysogyon in its earliest known version, before it became conflated with supplementary material’ (Hughes, t. 19).  Mae'r Cronicon de Wallia yn adnabyddus hefyd am ansawdd uchel iawn ei Ladin, gyda chyfoeth o gyfeiriadau o'r byd clasurol, darnau rhethregol blodeuog a chystrawen hynod gymhleth sy'n tystio bod yr ysgrifennwr wedi cael addysg Ladin o'r radd flaenaf. Gwelir hyn yn arbennig yn y cofnodion hynny sy'n canu clodydd yr Arglwydd Rhys ap Gruffudd (m. 1197).   Mae Lladin coeth y gwaith hwn yn neilltuol ddiddorol mewn cyd-destun Cymreig, lle gwyddys ychydig iawn am addysg cyfrwng Lladin yr oesoedd canol.   Golygwyd Cronicon de Wallia gan Thomas Jones yn 1946, yn fuan ar ôl ei ddarganfod gan Robin Flower, ac mae argraffiad newydd ar y gweill ar hyn o bryd.

Georgia Henley

Editions & Translation

  • Thomas Jones, “‘Cronica de Wallia” and Other Documents from Exeter Cathedral Library MS. 3514’, Bulletin of the Board of Celtic Studies,12 (1946), 27–44.

Secondary Scholarship

  • Julia Crick, ‘The Power and the Glory: Conquest and Cosmology in Edwardian Wales’, in Textual Cultures: Cultural Texts, ed. by Orietta Da Rold and Elaine Treharne (Cambridge: D. S. Brewer, 2010), pp. 21–42.
  • Georgia Henley, ‘Rhetoric, Translation and Historiography: The Literary Qualities of Brut y Tywysogyon’, Quaestio Insularis: Selected Proceedings of the Cambridge Colloquium in Anglo-Saxon, Norse and Celtic,13 (2012), 78–103.
  • Georgia Henley, ‘The Use of English Annalistic Sources in Medieval Welsh Chronicles’, Haskins Society Journal,26 (2015, forthcoming).
  • Kathleen Hughes, ‘The Welsh Latin Chronicles: Annales Cambriae and Related Texts’, Proceedings of the British Academy,59 (1973), 233–58; repr. in her Celtic Britain in the Early Middle Ages, ed. by David N. Dumville (Woodbridge: Boydell, 1980), pp. 67–85.
  • J. E. Lloyd, ‘The Welsh Chronicles’, Proceedings of the British Academy, 14 (1928), 369–91.
  • Paul Russell, ‘“Go and look in the Latin books”: Latin and the Vernacular in Medieval Wales’, in Latin in Medieval Britain, ed. by Richard Ashdowne and Carolinne White, Proceedings of the British Academy (2016, forthcoming).
  • J. Beverley Smith, ‘The “Cronica de Wallia” and the Dynasty of Dinefwr’, Bulletin of the Board of Celtic Studies,20 (1963–64), 261–82.

Site footer