Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Bibliographic information

Language: Welsh

Covers years:

  • 682–1198 [Cotton Cleopatra B. v]
  • 682–1461 [NLW 7006D]

Manuscript:

Brenhinedd y Saesson

Hon yw'r fwyaf neilltuol o'r tair fersiwn i oroesi o'r grŵp o groniclau sydd â chysylltiad agos rhyngddynt ac a adwaenir fel Brut y Tywysogion. Hi yw'r unig un o'r tair a adwaenir dan enw gwahanol, a roddir yn ei llawysgrifau cynharaf.  Mae llawysgrif gynharaf y cronicl yn anghyflawn ac yn gorffen yn 1198.  Hyd at hynny mae'n ddibynnol yn y bôn ar yr un deunydd â dwy fersiwn arall y Brut (Peniarth 20 a Llyfr Coch Hergest), ond cyfunir hynny â deunydd o ffynonellau Seisnig yn ymwneud â digwyddiadau yn Lloegr, a hynny lawnaf i lawr i'r unfed ganrif ar ddeg.  Mae'r ffynonellau hyn yn cynnwys Blwyddnodion Caerwynt (Annals of Winchester), Gesta Regum Anglorum gan William o Malmesbury, a deunydd a dynnwyd yn y pen draw o Historia Anglorum Henry o Huntingdon, yn ogystal â blwyddnodion o'r Mers sydd wedi goroesi yn y llawysgrif Breviate of Domesday, MS E.164/1 yn yr Archifau Gwladol, Llundain llawysgrif sydd hefyd yn cynnwys y Cronicl 'Breviate (Testun-B yr Annales Cambriae)'.'

Mae Brenhinedd y Saesson yn gyfuniad unigryw o hanes Cymreig a Seisnig, er nad yw'n gyson yn ei ymdriniaeth ond am ran o'r testun, sef hyd at yr unfed ganrif ar ddeg.  Ei brif ffynhonnell yw'r cronicl Lladin y deilliodd y ddwy fersiwn arall o Frut y Tywysogion ohono yn y pen draw ond, yn ogystal â chrynhoi a thalfyrru'r gwaith hwnnw ac ychwanegu deunydd yn ymwneud â brenhinoedd Lloegr, rhoddodd yr awdur hefyd fwy o gysondeb hanesyddiaethol i'r gwaith, yn arbennig yn ei ran gynharaf.  Fe'i cysylltir yn fwy pendant â gwaith Sieffre o Fynwy, De gestis Britonum, y gwaith sy'n ei ragflaenu yn nwy lawysgrif gynharaf Brenhinedd y Saesson, a hynny mewn cyfieithiad Cymraeg arbennig gyda'r teitl, Ystoriaeu Brenhinedd Ynys Brydeyn.

Ysgrifennwyd y llawysgrif gynharaf, sef Cotton Cleopatra B. v, rhan 1, sydd yn Y Llyfrgell Brydeinig, Llundain, gan yr un ysgrifennwr a ysgrifennodd y parhad o Frut y Tywysogion yn Peniarth 20, ac felly gellir ei dyddio i'r cyfnod oddeutu 1330.  Mae'n eithriadol debygol bod y llawysgrif hon yn dod o ogledd-ddwyrain Cymru a gall hon hefyd fod wedi dod o Abaty Glyn y Groes (Valle Crucis). 

Mae'r testun hwn o'r cronicl yn gorffen yn 1198.  Yr ail lawysgrif bwysig yw Aberystwyth, LlGC 7006D, neu Lyfr Du Basing.  Fe'i gorffennwyd yn fuan wedi 1461 ac mae yn llaw'r bardd Gutun Owain ac ysgrifennwr arall, a oedd mae'n debyg yn hŷn.  Mae ei pherthynas â Cotton Cleopatra B. v a Peniarth 20 yn awgrymu y gall hon hefyd fod yn gynnyrch Glyn y Groes, ond mae ei chysylltiad cynharaf ag abaty Sistersaidd Dinas Basing.  Roedd gan Gutun Owain gysylltiadau agos â'r ddwy fynachlog.  Mae'r fersiwn hon o'r cronicl yn ddibynnol ar Cotton Cleopatra hyd at 1198 ond, wedi hynny, mae'n gyfuniad o fersiynau Peniarth 20 a Llyfr Coch Hergest hyd at 1282.  Mae wedyn yn defnyddio'r parhad o Peniarth 20 hyd 1332, ac yna ceir parhad byr pellach hyd 1461, o bosibl o waith Gutun Owain ei hun.   Mae golygiad Thomas Jones o'r cronicl yn defnyddio Cotton Cleopatra B. v hyd 1198, gydag amrywiadau o LlGC 7006D, ac yna'r olaf hyd 1461.

Nia Wyn Jones

Editions & Translation

  • Brenhinedd y Saesson, or, the Kings of the Saxons: BM Cotton MS. Cleopatra B v and the Black Book of Basingwerk, NLW MS. 7006, ed. and trans. by Thomas Jones, History and Law Series, 25 (Cardiff: University of Wales Press, 1971).
  • Brenhinoedd y Saeson, 'The Kings of the English', A.D. 682–954: Texts P, R, S in Parallel, ed. by D. N. Dumville, Basic Texts for Medieval British History, 1 (Aberdeen: Department of History, University of Aberdeen, 2005).

Secondary Scholarship

Secondary Scholarship - Specific to this version

  • J. J. Parry, Brut y Brenhinedd: Cotton Cleopatra Version (Cambridge, MA, 1937)
  • B. F. Roberts, 'Ystoriaeu Brenhinedd Ynys Brydeyn: a Fourteenth-Century Welsh Brut', in Narrative in Celtic Tradition: Essays in Honor of Edgar M. Slotkin,ed. by Joseph F. Eska, CSANA Yearbook, 8–9 (Hamilton, NY: Colgate University Press, 2011), pp. 215–27.
  • J. Beverley Smith, ‘Historical Writing in Medieval Wales: the Composition of Brenhinedd y Saesson’, Studia Celtica, 42 (2008), 55–86.

Secondary Scholarship - Brut y Tywysogion more generally

  • Nia Wyn Jones, ‘Brut y Tywysogion: The History of the Princes and Twelfth-Century Cambro-Latin Historical Writing’, Haskins Society Journal 26 (2014, forthcoming)
  • J. E. Lloyd, ‘The Welsh Chronicles’, Proceedings of the British Academy,14 (1928), 369–91.
  • J. Beverley Smith, 'Castell Gwyddgrug', Bulletin of the Board of Celtic Studies, 26 (1976), 74–77.
  • J. Beverley Smith, ‘Historical Writing in Medieval Wales: The Composition of Brenhinedd y Saesson’, Studia Celtica,42 (2008), 55–86.
  • David Stephenson, 'The Chronicler of Cwm-hir abbey, 1257–63: The Construction of a Welsh Chronicle', in Wales and the Welsh in the Middle Ages, ed. by R. A. Griffiths and P. R. Schofield (Cardiff: University of Wales Press, 2011), pp. 29–45.
  • David Stephenson, ‘Entries Relating to Arwystli and Powys in the Welsh Chronicles, 1128–32’, Montgomeryshire Collections, 99 (2011), 45–51.
  • David Stephenson, 'The "Resurgence" of Powys in the Late Eleventh and Early Twelfth Centuries', Anglo-Norman Studies, 30 (2007), 182–95.
  • David Stephenson, 'Welsh Chronicles' Accounts of the Mid-Twelfth Century', Cambrian Medieval Celtic Studies, 56 (2008), 45–57.

Site footer