Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Bibliographic information:

Language: Latin

Covers years: 1230 B.C.–A.D. 1375

Manuscripts:

  • Aberystwyth, NLW, Peniarth 32, ff. 112v–114v (c. 1404).
  • London, British Library, Cotton Titus D. xxii, ff. 22r–37r (1429).
  • London, British Library, Cotton Nero A. iv, ff. 2r–7v (s. xv/xvi).
  • London, British Library, Harley 3725, ff. 40v–65v (s. xv)

Epitome Historiae Britanniae

Mae dau gopi llawn ac un copi wedi'i dalfyrru i'w cael o'r cronicl Lladin byr hwn. Mae'r copïau llawn i'w cael yn llawysgrif Cotton Titus D. xxi, yn y Llyfrgell Brydeinig yn Llundain, lle nodir i'r copi hwnnw o'r cronicl gael ei ysgrifennu yn 1429, ac yn llawysgrif Cotton Nero A. iv, hefyd yn y Llyfrgell Brydeinig.

Ysgrifennwyd y llawysgrif hon gan rywun yn niwedd y bymthegfed ganrif neu ddechrau'r unfed ganrif ar bymtheg, ond gan gopïo fersiwn o'r cronicl a ysgrifennwyd yn 1399. Mae'r copi talfyredig o'r cronicl i'w gael yn Llawysgrif Peniarth 32 yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth. Fe'i gelwir hefyd Y Llyfr Teg, gyda'r cronicl yn cael ei ysgrifennu yn 1404. Fe ymddengys i'r talfyriad gael ei lunio o safbwynt Abaty Sistersaidd Llantarnam, gan efallai awgrymu tarddiad Peniarth 32.

Mae'r Epitome Historiae Britanniae yn rhoi crynodeb o ddigwyddiadau o safbwynt Morgannwg o gyrhaeddiad Brutus ym Mhrydain, digwyddiad a briodolir i'r flwyddyn 1230 C.C., i ail hanner y bedwaredd ganrif ar ddeg. Mae Diana Luft wedi rhannu'r cronicl yn bedair adran, pob un ohonynt wedi defnyddio ffynonellau gwahanol. Mae'r adran gyntaf, o Brutus hyd farwolaeth Cadwaladr yn 689, yn pwyso'n bennaf ar waith Sieffre o Fynwy, ond defnyddiwyd ffynonellau eraill hefyd, megis y testunau yn Llyfr Llandaf a Historia Ecclesiastica o waith Beda Fynach. Mae'r ail adran yn parhau hyd at farwolaeth Llywelyn ap Gruffudd yn 1282, a chymrwyd y deunydd i raddau helaeth o lyfr 1, penodau 2-3 o Descriptio Kambriae o waith Gerallt Gymro.

Mae'r drydedd adran yn disgrifio'r cyfnod yn dilyn marwolaeth Llywelyn, a gymerwyd o ffynhonnell yn gysylltiedig â blwyddnodion Waverley a Chaerwrangon, ac yna ceir disgrifiad o ddigwyddiadau o safbwynt Morgannwg sy'n mynd ymlaen i'r bedwaredd ganrif ar ddeg. Yn y bedwaredd adran ceir deunydd cyfrifiannol a disgrifiad o raniadau'r byd, yn gysylltiedig â deunydd a geir yn yr ailolygiad Gildasaidd o'r Historia Brittonum. Mae'r ail a'r drydedd adran bron yn union yr un fath â'r rhannau perthnasol o'r 'Register and Chronicle of the Abbey of Aberconwy', a luniwyd yn Abaty Hailes, a gall hwn fod wedi defnyddio fersiwn o'r Epitome Historiae Britanniae fel ffynhonnell.

Ben Guy

Editions & Translation

  • G. T. Clark, Cartæ et alia munimenta quae ad Dominium de Glamorgan Pertinant, 4 vols (Cardiff: William Lewis, 1885–1893), IV, 90–93. [extracts from Cotton Nero A. iv]
  • Diana Luft, ‘The NLW Peniarth 32 Latin Chronicle’, Studia Celtica 44 (2010), 47–70. [text from Peniarth 32]
  • W. J. Rees, The Liber Landavensis, Llyfr Teilo (Llandovery: W. Rees, 1840), pp. 277–78 and 620–22. [extracts from Cotton Titus D. xxi]
  • W. J. Rees, Lives of the Cambro-British Saints (Llandovery: W. Rees, 1853), pp. 278–86 and 612–22. [text from Cotton Titus D. xxi]

Secondary Scholarship

  • David Stephenson, The Aberconwy Chronicle (Cambridge: Department of Anglo-Saxon, Norse and Celtic, 2002).
  • A. W. Wade-Evans, Vitae sanctorum Britanniae et genealogiae / The Lives and Genealogies of the Welsh Saints, Board of Celtic Studies, University of Wales, History and Law Series, 9(Cardiff: University of Wales Press Board, 1944), pp. xv–xviii.

Site footer