Bibliographic information
Language: Welsh
Covers years: c.388–c.1265
Manuscript:
- Oxford, Jesus College 111, Llyfr Coch Hergest (c.1382×c.1410), fol. 254r–v
- Aberystwyth, NLW MS Peniarth 32, Y Llyfr Teg (c.1404), fols. 114v–116v
- Aberystwyth, NLW MS Llansteffan 28 (1455–1456), pp. 86–92
- Aberystwyth, NLW MS Peniarth 182 (1509×1513), pp. 24–34
- Aberystwyth, NLW MS Peniarth 135 (1556–1564), pp. 66–71
- Cardiff, Central Library MS 3.11 (c.1561–1575), pp. 149–54
- Cardiff, Central Library MS 3.11 (c.1561–1575), pp. 149–54
- Aberystwyth, NLW MS Peniarth 212 (1565×1587), pp. 514–523
O Oes Gwrtheyrn O Oes Gwrtheyrn
Mae hwn yn destun cronolegol cymharol fyr, yn bennaf yn cynnwys deunydd a rennir â Brut y Tywysogion a'r blwyddnodion Lladin Cymreig hyd at ddiwedd y ddeuddegfed ganrif; wedi hynny, mae'n cynnwys deunydd unigryw. Rhwng 1209 a 1211 mae iddo nodweddion cronicl llawnach ond wedyn mae'n mynd yn gyfres o nodiadau byrion unwaith eto tan oddeutu 1265, er ei fod drachefn yn cynnwys peth deunydd unigryw.
Mae'r cronicl yn gorffen gyda chyfres o hysbysiadau'n ymwneud â digwyddiadau pwysig yn hanes y Cymry. Mewn rhai fersiynau o'r cronicl, mae'r rhain wedi eu dyddio i 1211, ac mewn rhai i 1255, gan ddarlunio dwy gangen wahanol yn hanes testunol O Oes Gwrtheyrn. Mae cryn dystiolaeth mai yn abaty Sistersaidd Aberconwy y lluniwyd y gwaith, yn arbennig cyfeiriad a geir ynddo at faenor Creuddyn yr abaty yn 1210. Yn O Oes Gwrtheyrn ceir cronoleg gymharol gydag ychydig o ddyddiadau pendant - daw'r teitl ei hun o linell gyntaf y gwaith, sy'n dechrau nid â dyddiad ond â nifer y blynyddoedd rhwng teyrnasiad Gwrtheyrn a brwydr Mynydd Baddon.
Llawysgrifau hynaf y cronicl yw Llawysgrif 111 Coleg Iesu, Rhydychen (Llyfr Coch Hergest) a Llawysgrif Peniarth 32 yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth (Y Llyfr Teg), y ddau wedi eu llunio oddeutu 1400. Mae'r ddau destun hyn yn anghyflawn i wahanol raddau, ac mae llawysgrifau eraill o'r bymthegfed a'r unfed ganrif ar bymtheg yn bwysig o ran hanes testunol y gwaith. Mae'r gwaith o bennu'r union berthynas rhwng y rhain yn parhau.
Nia Wyn Jones
Editions & Translation
- Humphrey Llwyd, Britannicæ descriptionis commentariolum: necnon de Mona insula et Britannica arce, sive armamentario Romano disceptatio epistolaris. Accedunt æræ Cambrobritannicæ, ed. by M. Williams (London, 1731), pp. 141–64 [Text of Llyfr Coch Hergest until its end, continued with the text of Llansteffan MS 28]
- J. Rhŷs and J. Gwenogvryn Evans, The Text of the Bruts from the Red Book of Hergest (Oxford, 1890), pp. 404–6 [Diplomatic text of the incomplete version in Llyfr Coch Hergest]
- Nia Wyn Jones, ‘Historical Writing in Medieval Wales’, (PhD thesis, Bangor University, 2013), pp. 409–30 [Critical text and translation]
Secondary Scholarship
- J. E. Lloyd, 'Wales and the Coming of the Normans (1039–1093)', Transactions of the Honourable Society of Cymmrodorion 1899–1900 (1901), 122–79 (135 n.).
- Nia Wyn Jones, ‘Historical Writing in Medieval Wales’, (PhD thesis, Bangor University, 2013), pp. 287–316, 409–30.