Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Bibliographic information

Language: Welsh

Covers years: 682–1332

Manuscript:

Brut y Tywysogion, Fersiwn Peniarth MS 20

Mae'r cronicl hwn yn un o dair fersiwn i oroesi o'r grŵp o groniclau sydd â chysylltiad agos rhyngddynt ac a adwaenir fel Brut y Tywysogion. O'r tair, hwn yw'r mwyaf cyflawn drwodd a thro.

Fel holl fersiynau Brut y Tywysogion mae'r cronicl yn dechrau gyda marwolaeth Cadwaladr, brenin olaf Prydain, yn 682, ac mae'n parhau tan 1332. Hyd at 1198 mae'n ddibynnol yn y bôn ar yr un deunydd â dwy fersiwn arall y Brut (Brenhinedd y Saesson a fersiwn Llyfr Coch Hergest), a hyd at ddechrau 1282 mae'n ddibynnol i bob pwrpas ar yr un deunydd ag a geir yn fersiwn Llyfr Coch Hergest. Mae ei ddisgrifiad o'r cyfnod ar ôl 1282 yn unigryw ac, yn ychwanegol at hyn, mae'n cynnwys drwy gydol y cyfnod cynharach beth deunydd nad yw i'w gael yn fersiynau eraill y Brut. Dadleuodd ei olygydd, Thomas Jones, bod tair fersiwn Gymraeg y Brut wedi cael eu cyfieithu o dair fersiwn wahanol o gronicl Lladin gwreiddiol, a pharheir o hyd i dderbyn hynny fel yr eglurhad ar y berthynas rhwng y croniclau hyn.

Mae pob un o dair fersiwn Brut y Tywysogion yn dibynnu'n bennaf ar ddeunydd Tŷ Ddewi am y cyfnod tan ran olaf yr unfed ganrif ar ddeg, ar ddeunydd Llanbadarn am lawer o'r ddeuddegfed ganrif, ac ar ddeunydd Ystrad Fflur am y drydedd ganrif ar ddeg.

Yr un llawysgrif bwysig am y fersiwn hon o Frut y Tywysogion yw Llawysgrif Peniarth 20, a gynhyrchwyd bron yn sicr yn abaty Sistersaidd Glyn y Groes (Valle Crucis) ym Mhowys Fadog, oddeutu 1330. Mae'r llawysgrif hon yn cynnwys Y Bibyl Ynghymraec, fersiwn Gymraeg o'r Promptuarium Bibliae a briodolir i Petrus Pictaviensis, yna Brut y Tywysogion ar tt. 65–302, a gramadeg barddol i ddilyn. Gwelir newid llaw yn 1282 (t. 292) a chafodd y ddau flwyddnodyn olaf, am 1331 a 1332, eu hysgrifennu'r un pryd â'r digwyddiadau a ddisgrifir ynddynt.

Editions & Translation

  • Brenhinoedd y Saeson, 'The Kings of the English', A.D. 682–954: Texts P, R, S in Parallel, ed. by D. N. Dumville, Basic Texts for Medieval British History, 1 (Aberdeen: Department of History, University of Aberdeen, 2005).
  • Brut y Tywysogion, or, the Chronicle of the Princes: Peniarth MS. 20 Version, ed. and trans. by Thomas Jones, History and Law Series, 11 (Cardiff: University of Wales Press, 1952). [This translation, with English notes and discussion, contains a more complete list of MSS than the 1941 edition]
  • Brut y Tywysogion, Peniarth MS. 20, ed. by Thomas Jones, History and Law Series, 6 (Cardiff: University of Wales Press, 1941).

Secondary Scholarship

Secondary Scholarship - Specific to this version

  • Gifford and T. M. Charles-Edwards, 'The Continuation of Brut y Tywysogion in Peniarth MS.20', in Ysgrifau a Cherddi Cyflwynedig i Daniel Huws / Essays and Poems presented to Daniel Huws, ed. by Tegwyn Jones and E. B. Fryde (Aberystwyth: National Library of Wales, 1994), pp. 293–305.
  • J. G. Edwards, review of Brut y Tywysogion, Peniarth MS. 20, ed. by Thomas Jones (1941), English Historical Review, 57 (1942), 370–75.

Secondary scholarship - Brut y Tywysogion more generally

  • Nia Wyn Jones, ‘Brut y Tywysogion: The History of the Princes and Twelfth-Century Cambro-Latin Historical Writing’, Haskins Society Journal 26 (2014, forthcoming)
  • J. E. Lloyd, ‘The Welsh Chronicles’, Proceedings of the British Academy,14 (1928), 369–91.
  • J. Beverley Smith, 'Castell Gwyddgrug', Bulletin of the Board of Celtic Studies, 26 (1976), 74–77.
  • J. Beverley Smith, ‘Historical Writing in Medieval Wales: The Composition of Brenhinedd y Saesson’, Studia Celtica,42 (2008), 55–86.
  • David Stephenson, 'The Chronicler of Cwm-hir abbey, 1257–63: The Construction of a Welsh Chronicle', in Wales and the Welsh in the Middle Ages, ed. by R. A. Griffiths and P. R. Schofield (Cardiff: University of Wales Press, 2011), pp. 29–45.
  • David Stephenson, ‘Entries Relating to Arwystli and Powys in the Welsh Chronicles, 1128–32’, Montgomeryshire Collections, 99 (2011), 45–51.
  • David Stephenson, 'The "Resurgence" of Powys in the Late Eleventh and Early Twelfth Centuries', Anglo-Norman Studies, 30 (2007), 182–95.
  • David Stephenson, 'Welsh Chronicles' Accounts of the Mid-Twelfth Century', Cambrian Medieval Celtic Studies, 56 (2008), 45–57.

Site footer