Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Bibliographic information

Language: Welsh

Covers years: 682–1282

Manuscript:

  • Aberystwyth, NLW, Peniarth 18 (South West Wales, s. xivmed.).
  • Aberystwyth, NLW 3035B (Mostyn 116) (s. xiv2), ff. 142r–206v.
  • Oxford, Jesus College 111 (Gŵyr, 1382 × 1408), ff. 58r–89v [accessed 23 April 2015].
  • Aberystwyth, NLW, Peniarth 19 (c. 1400), ff. 89v–143r.
  • Aberystwyth, NLW, Llanstephan 172 (s. xvi–xvii), ff. 1r–121r.

Brut y Tywysogion, Fersiwn Llyfr Coch Hergest

Mae'r cronicl hwn yn un o dair fersiwn i oroesi o'r grŵp o groniclau sydd â chysylltiad agos rhyngddynt ac a adwaenir fel Brut y Tywysogion.  O'r tair fersiwn, hon yw'r unig un sy'n dechrau yn 682 a mynd ymlaen tan 1282, er nad yw'n ymdrin â marwolaeth Llywelyn ap Gruffudd.   Hyd at 1198 mae'n ddibynnol yn y bôn ar yr un deunydd â dwy fersiwn arall y Brut (Brenhinedd y Saesson a fersiwn Peniarth 20), ac yna mae'n ddibynnol i bob pwrpas ar yr un deunydd â fersiwn Peniarth 20 tan 1282.   Drwy gydol, mae'n cynnwys peth deunydd nad yw i'w gael yn fersiynau eraill y Brut.  Drwodd a thro nid yw mor llawn â fersiwn Peniarth 20, ac yn llawnach na Brenhinedd y Saesson yn y rhannau lle maent yn rhannu ffynhonnell gyffredin.  Dadleuodd ei olygydd, Thomas Jones, bod tair fersiwn Gymraeg y Brut wedi cael eu cyfieithu o dair fersiwn wahanol o gronicl Lladin gwreiddiol, a pharheir o hyd i dderbyn hynny fel yr eglurhad ar y berthynas rhwng y croniclau hyn. 

Mae pob un o dair fersiwn Brut y Tywysogion yn dibynnu'n bennaf ar ddeunydd Tŷ Ddewi am y cyfnod tan ran olaf yr unfed ganrif ar ddeg, ar ddeunydd Llanbadarn am lawer o'r ddeuddegfed ganrif, ac ar ddeunydd Ystrad Fflur am y drydedd ganrif ar ddeg.
Er ei bod yn arferol cyfeirio at y fersiwn hon fel fersiwn Llyfr Coch Hergest, ar ôl Llawysgrif 111 Coleg Iesu, Rhydychen, nid hwn yw'r testun gorau na'r cywiraf.  Ar gyfer ei argraffiad beirniadol, defnyddiodd Thomas Jones Peniarth 18; Mostyn 116; Peniarth 19; Llanstephan 172 (i gyd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth); a Llawysgrif 111 Coleg Iesu, Rhydychen.   

Darparwyd ei destun sylfaenol gan Peniarth 18 a Mostyn 116.  Y llawysgrif hynaf, er yn anghyflawn, yw Peniarth 18, llawysgrif yn nwylo dau ysgrifennwr a oedd yn cydweithio â'i gilydd. Un o'r rhain oedd Ancr Llanddewibrefi ac efallai i'r gwaith gael ei ysgrifennu yn Ystrad Fflur.

Editions & Translation

  • Brenhinoedd y Saeson, 'The Kings of the English', A.D. 682–954: Texts P, R, S in Parallel, ed. by D. N. Dumville, Basic Texts for Medieval British History, 1 (Aberdeen, 2005).
  • Brut y Tywysogion, or, the Chronicle of the Princes: Red Book of Hergest Version, ed. and trans. by T. Jones, History and Law Series, 16 (Cardiff: Cardiff: University of Wales Press, 1955).

Secondary Scholarship

Secondary Scholarship - Specific to this version

  • B. F. Roberts, 'The Red Book of Hergest Version of Brut y Brenhinedd', Studia Celtica, 12/13 (1977–1978), 147–86.

Secondary scholarship - Brut y Tywysogion more generally

  • Nia Wyn Jones, ‘Brut y Tywysogion: The History of the Princes and Twelfth-Century Cambro-Latin Historical Writing’, Haskins Society Journal 26 (2014, forthcoming)
  • J. E. Lloyd, ‘The Welsh Chronicles’, Proceedings of the British Academy,14 (1928), 369–91.
  • J. Beverley Smith, 'Castell Gwyddgrug', Bulletin of the Board of Celtic Studies, 26 (1976), 74–77.
  • J. Beverley Smith, ‘Historical Writing in Medieval Wales: The Composition of Brenhinedd y Saesson’, Studia Celtica,42 (2008), 55–86.
  • David Stephenson, 'The Chronicler of Cwm-hir abbey, 1257–63: The Construction of a Welsh Chronicle', in Wales and the Welsh in the Middle Ages, ed. by R. A. Griffiths and P. R. Schofield (Cardiff: University of Wales Press, 2011), pp. 29–45.
  • David Stephenson, ‘Entries Relating to Arwystli and Powys in the Welsh Chronicles, 1128–32’, Montgomeryshire Collections, 99 (2011), 45–51.
  • David Stephenson, 'The "Resurgence" of Powys in the Late Eleventh and Early Twelfth Centuries', Anglo-Norman Studies, 30 (2007), 182–95.
  • David Stephenson, 'Welsh Chronicles' Accounts of the Mid-Twelfth Century', Cambrian Medieval Celtic Studies, 56 (2008), 45–57.

Site footer