Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Bibliographic information

Language: Latin

Covers years: 1132 B.C.–A.D. 1285.

Manuscript:

  • Exeter, Cathedral Library, 3514, pp. 523–28 (s. xiiiex)

Chronica ante aduentum domini

Y Chronica ante aduentum domini yw'r testun olaf yn Llawysgrif 3514, tt.523-28, Llyfrgell Eglwys Gadeiriol Caerwysg.   Llawysgrif o ddiwedd y drydedd ganrif ar ddeg yw hon ac mae'n cynnwys amrywiaeth o destunau hanesyddol, lled-hanesyddol ac achyddol o ddiddordeb Cymreig a chyffredinol.  Tarddodd mae'n debygol o Abaty Hendy-gwyn ar Daf, neu efallai Glyn-nedd; roedd yng Nghaerwysg erbyn y bedwaredd ganrif ar ddeg, pryd yr ychwanegwyd rhestr gynnwys ati.  O ran paleograffeg, mae bron yn amhosibl ei gwahaniaethu oddi wrth lawysgrifau Saesneg o'r cyfnod, a dyna pam na chafodd ei hadnabod fel llawysgrif Gymreig tan y 1940au, a hynny ar sail ei chynnwys a nodiadau ymyl y ddalen.  

Mae'r cronicl hwn yn ymdrin â'r cyfnod o'r Dilyw hyd at 1285, ac fe'i gwahanir oddi wrth y Cronicon de Wallia sy'n dod o'i flaen gan restr o achau plant yr Arglwydd Rhys ap Gruffudd.  Drwodd a thro, mae'n tueddu i gofnodi mwy o wybodaeth am Loegr na'r Cronicon de Wallia, sy'n canolbwyntio ar Gymru.  Ei gofnodion cynharaf yw fersiwn dalfyredig iawn o waith Sieffre o Fynwy, yn disgrifio sefydlu teyrnas Brydain gan Brutus, adeiladu ei ffyrdd, a rhai o'i dinasoedd a'i brenhinoedd cynnar.  Yn dilyn yr ymdrin â rheolaeth dros y wlad yn symud oddi wrth y Brythoniaid i'r Saeson, mae'r testun yn gwyro oddi wrth waith Sieffre, gan grybwyll bywydau rhai o'r saint Seisnig, dyfodiad y Normaniaid ac yna, yn fwy manwl, weithgareddau gwahanol frenhinoedd Seisnig - gyda rhai cyfeiriadau at eu hymwneud â'r Cymry - hyd at 1285.  Mae'r testun yn dilyn Cronicl Bury St Edmunds yn agos fel ffynhonnell rhwng 1172-1285, ac yna'r chwyddo'r wybodaeth hon gyda blwyddnodion Tŷ Ddewi o 1274 i'r diwedd (Hughes, 16-18).  Fe'i hysgrifennwyd yn Llaw 2 o'r naw llaw ysgrifenyddol a adnabuwyd gan Julia Crick.  Mae hi'n dadlau bod y llaw hon yn gweithio 'yn 1285 neu wedi hynny'; dywed felly bod y llawysgrif ‘was thus copied in the decades on either side of the Edwardian conquest, probably in a milieu very close to the political centre.’ (Crick, t. 24). 

Er bod y cronicl yn cael ei alw'n 'Chronica de Anglia' yn rhestr gynnwys y llawysgrif, a ychwanegwyd yn y bedwaredd ganrif ar ddeg, y teitl a ddefnyddir yn y cronicl ei hun a ddefnyddir yma.  Golygwyd y Chronica ante aduentum domini yn rhannol gan Thomas Jones yn 1946 ac mae wedi cael ei olygu'n llawn gan Henry Gough-Cooper; mae argraffiad newydd ar y gweill ar hyn o bryd.

Georgia Henley

Editions & Translation

Secondary Scholarship

  • Julia Crick, ‘The Power and the Glory: Conquest and Cosmology in Edwardian Wales’, in Textual Cultures: Cultural Texts, ed. by Orietta Da Rold and Elaine Treharne (Cambridge: D. S. Brewer, 2010), pp. 21–42.
  • Georgia Henley, ‘Rhetoric, Translation and Historiography: The Literary Qualities of Brut y Tywysogyo’, Quaestio Insularis: Selected Proceedings of the Cambridge Colloquium in Anglo-Saxon, Norse and Celtic,13 (2012), 78–103.
  • Georgia Henley, ‘The Use of English Annalistic Sources in Medieval Welsh Chronicles’, Haskins Society Journal,26 (2015, forthcoming).
  • Kathleen Hughes, ‘The Welsh Latin Chronicles: Annales Cambriae and Related Texts’, Proceedings of the British Academy,59 (1973), 233–58; repr. in her Celtic Britain in the Early Middle Ages, ed. by David N. Dumville (Woodbridge: Boydell, 1980), pp. 67–85.
  • J. E. Lloyd, ‘The Welsh Chronicles’, Proceedings of the British Academy, 14 (1928), 369–91.
  • Paul Russell, ‘“Go and look in the Latin books”: Latin and the Vernacular in Medieval Wales’, in Latin in Medieval Britain, ed. by Richard Ashdowne and Carolinne White, Proceedings of the British Academy (2016, forthcoming).
  • J. Beverley Smith, ‘The “Cronica de Wallia” and the Dynasty of Dinefwr’, Bulletin of the Board of Celtic Studies,20 (1963–64), 261–82.

Site footer